01633 244233 Contact us

02 Aug 2024

Cymraeg

Inside Harding Evans

Siarad Cymraeg? Gallwn ni helpu!

Hoffem eich cyflwyno i'r cyfreithwyr yn Harding Evans a all eich cynghori yn Gymraeg, o'n swyddfeydd yng Nghaerdydd neu Gasnewydd.

Fel cwmni Cymreig balch, mae Harding Evans wedi ymrwymo i, ac yn annog, defnyddio’r Gymraeg, boed hynny ymhlith ein cydweithwyr, neu gyda’n cleientiaid.

Mae gennym nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hapus i’ch cynghori yn Gymraeg. Ein siaradwyr Cymraeg yw Wyn Williams, Sara Haf Uren, Nia Maggs, Ela Lloyd Evans a Ffion Jones.

welsh speaking solicitors at harding evans solicitors in newport and cardiff

Mae Wyn yn bennaeth ar ein hadran Trawsgludo Preswyl – felly os ydych chi’n prynu, gwerthu, neu’n ailforgeisio’ch cartref, ef yw eich dyn!

Fe welwch Sara a Nia yn ein tîm Esgeulustod Clinigol nodedig. Os ydych chi neu rywun annwyl wedi dioddef o salwch neu anaf o ganlyniad i driniaeth feddygol o ansawdd gwael, camddiagnosis neu gamgymeriad, gallwch ymddiried ynddynt i roi’r cyngor gorau i chi ac os gallwch wneud hawliad, byddant yn eich helpu i dderbyn yr iawndal yr ydych yn ei haeddu.

Mae ein tîm Cyfraith Gyhoeddus ac Ymgyfreitha Preifat yn gartref i Ela a Ffion. Mae’r tîm yn ymdrin ag ystod eang o faterion o gynrychiolaeth mewn cwest, cymryd camau yn erbyn yr heddlu neu awdurdodau cyhoeddus, i wasanaethau landlordiaid a thenantiaid, cynrychioli teuluoedd Cymru mewn profedigaeth yn Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unediga llawer mwy.

Os oes angen cyngor arnoch gan unrhyw un o’n siaradwyr Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

As a proud Welsh firm, Harding Evans are committed to, and encourage, the use of the Welsh language, be that amongst our colleagues, or with our clients.

We have a number of fluent Welsh speakers who would be happy to advise you in Welsh. Our Welsh speakers are Wyn Williams, Sara Haf Uren, Nia Maggs, Ela Lloyd Evans and Ffion Jones.

Wyn heads up our residential conveyancing department – so if you’re buying, selling, or remortgaging your home, he’s your man!

You’ll find Sara and Nia in our renowned clinical negligence team. If you or a loved one have experienced illness or injury as a result of poor-quality medical treatment, misdiagnosis or error, you can trust them to provide you with the best advice and if you can make a claim, they will help you to receive the compensation that you deserve.

Our Public Law & Private Litigation team is where you will find Ela and Ffion. The team handle a wide range of matters from inquest representation, taking action against the police or public authorities, to landlord and tenant services, representing the bereaved families of Wales at the UK Covid Inquiry and much more.

If you need advice from any of our Welsh speakers, please do not hesitate to get in touch.

 

 

 

Share post